Ymgyrch Sothach Sbwriel

  • ENG
  • CYM

adref . Hanes ailgylchu . 1901 - 2007

  • Adref
  • Newyddion
  • Oriel
  • Parth gemau
  • Addewid
  • Nodweddion
  • Astudiaethau Achos
  • O gwmpas y Byd
  • Dolenni
  • Ailgylchu i chi?
  • Cysylltwch
Oes fideo gennych chi? Oes llun gennych chi? Oes stori gennych chi? Cliciwch yma i gyflwyno’ch lluniau, fideo a’ch testun...

Ffaith Afiach

In just over a week, we produce enough rubbish to fill Wembley stadium. Over half of that waste can be recycled. (Source: DETR)

Cofrestrwch Crëwch eich proffil, rhannwch eich barn, ychwanegu gwreiddiau i’ch sylwadau... Tanysgrifiwch I Gylchlythyr Sothach Sbwriel Lluniwch eich Addewid Sothach Sbwriel eich hun

Hanes ailgylchu

1901 - 2007

Rubbish 1
  • Rubbish 1
  • Rubbish 2

1930au

Pobl yn dechrau gwneud plastigau allan o gemegolion a gynhyrchir o betroliwm (mae cynhyrchion plastig wedi cael eu gwneud allan o blanhigion ers 1862).

1939

Wrth geisio peidio â chael eu goresgyn ac ymladd unbeniaid dieflig. Anghofiodd pobl am reoli gwastraff yn ystod yr Ail Ryfel Byd a golygodd hyn bod tomenni anferth wedi eu creu y tu allan i ddinasoedd, lle roedd tipiau anferth hyd at filltir o hyd yn aml yn llosgi’n barhaus.

1948

Agorwyd ‘Fresh Kills Landfill’, am enw hyfryd, yn Efrog Newydd. Mae mor fawr mae’n debyg y gellir ei weld o’r gofod, ond dydyn ni ddim yn siŵr pwy oedd yn y gofod ym 1948 i ddweud hynny wrthyn nhw.

1960

Dug Caeredin yn dweud y drefn wrth y llywodraeth ynglŷn â pha mor flêr mae popeth. Mae hyn yn arwain at sefydlu’r Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol.   

1971

Cyfeillion y Ddaear yn dychwelyd miloedd o boteli i’r cwmni diodydd Schweppes. Maen nhw’n dweud wrth bapurau newydd a sianeli teledu eu bod yn gwneud hyn ac yn sydyn mae pawb yn clywed am reoli gwastraff ac ailgylchu. Mae ailgylchu wedi cyrraedd yr ymwybyddiaeth gyhoeddus.

1977

Y banciau poteli cyntaf yn ymddangos ym Mhrydain.

1986

Amddiffyn amgylcheddol yn cael ei gynnwys o’r diwedd yn Cytundeb Rhufain trwy’r Ddeddf Ewropeaidd Sengl, Cyfieithiad: Rhaid i bob gwlad yn Ewrop edrych ar ôl yr amgylchedd, neu gwyliwch eich hun!

1990

Deddf yr Amgylchedd – y darn mwyaf arwyddocaol o ddeddfwriaeth amgylcheddol erioed.

1994

Yr Undeb Ewropeaidd yn penderfynu bod rhaid i bwy bynnag sy’n rhoi pecynnu ar eu nwyddau ddefnyddio llai a cheisio ailgylchu mwy.  

1996

Mae Llywodraeth Prydain yn dweud y dylai 25% o wastraff tŷ gael ei ailgylchu erbyn y flwyddyn 2005 a 40% erbyn 2010.

Tua’r adeg hon neu ychydig cyn hynny y ganwyd y rhan fwyaf ohonoch chi. Felly rydyn ni’n stopio ysgrifennu’r hanes byr yma nawr ac fe allwch chi gario mlaen. Ewch i’r wefan o ddarganfod sut y gallwch ddechrau creu hanes ailgylchu heddiw!

 

Ychwanegwch eich sylw

Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru sy’n cael rhoi sylwadau ar y wefan hon. Logiwch i mewn neu cofrestrwch. Logiwch i mewn Neu Cofrestrwch

The Act On CO2 Carbon Calculator has been developed by the UK Government and is based on Government approved data

Argraffu’r dudalen.Yn ôl i’r top

Yr holl gynnwys (h) 2006/07 Ymgyrch Sothach Sbwriel
Rhestr Diolchiadau’r Wefan . Fersiwn Testun . Telerau . Hygyrchedd