Hanes ailgylchu
1-1900
220 OC
Y dynion casglu sbwriel cyntaf mae cofnod ohonyn nhw yw’r Rhufeiniaid. Mae timau o ddau yn cerdded i lawr y stryd, yn gafael mewn sbwriel a’i daflu i mewn i wagen.
1297OC
Roedd pethau’n mynd o ddrwg i waeth ym Mhrydain, roedd yn mynd yn fwyfwy blêr. Penderfynodd y pennaeth ar y pryd greu cyfraith yn dweud bod yn rhaid i flaen tŷ pawb fod yn glir o sbwriel. Doedd neb yn talu sylw iddo. Efallai ei fod wedi llefain, dyw haneswyr ddim yn siŵr.
1354
Yn Llundain roedd y sbwriel mor ddrwg nes eu bod wedi cyflogi pobl i’w gribinio i fyny unwaith yr wythnos. Roedd i gyd yn organig hefyd, fel bwyd oedd yn pydru, anifeiliaid marw a phobl oedd ddim yn bwyta’u bwyd gwyrdd (yr adeg honno roedd popeth yn wyrdd, hyd yn oed y cig), felly roedd yn cael ei ddefnyddio fel compost.
1407
Cafodd cyfreithiau eu hysgrifennu i lawr a’u hoelio i fyny ar hyd a lled Llundain i gyd yn dweud bod rhaid cadw sbwriel had yn y tŷ nes i’r dynion Cribinio hynny o 1354 ddod heibio a mynd ag ef i’w ddadlwytho yn y corsydd yn Essex. Yn anffodus doedd neb yn gallu darllen felly chafodd hyn ddim llawer o effaith.
1700au a’r 1800au
Wps. Gan ein bod mor glyfar, fe ddyfeision ni’r Chwyldro Diwydiannol. Gan ddechrau yn y 18fed ganrif, fe ddechreuon ni ddyfeisio nifer o ffyrdd i wneud llawer o bethau’n gyflym ac roedden ni wedi llwyddo i synnu’n hunain am fod mor fodern. Hefyd fe greodd llawer, llawer mwy o wastraff. Dyma lle dechreuodd problemau heddiw.
1820
Dyfeisiodd Thomas Hancock beiriant i chwalu ac ailgylchu darnau gwastraff o rwber.
1848
Ym Mhrydain, dechreuodd y Ddeddf Iechyd Cyhoeddus 1848 ar y broses o reoli gwastraff.Iawn, roedd hyn braidd yn ddiflas, ond roedd yn golygu na allai pobl daflu sbwriel ar hyd y le.
1875
Deddf Iechyd Gyhoeddus 1875. Dyw’r deddfau yma ddim yn swnio’n gyffrous iawn ydyn nhw? Ond da iawn wir, roedd hon yn dweud bod rhaid i’r cyngor ddod i fynd â’r sbwriel i ffwrdd.
1885
Mae’r ganolfan ailgylchu gyntaf yn cael ei sefydlu yn Efrog Newydd.
1890
Mae’r ‘British Paper Company’ yn cael ei greu i wneud papur a cardbord o ddefnyddiau wedi eu hailgylchu. Mae papur gwastraff yn cael ei gasglu oddi wrth sefydliadau megis Byddin yr Iachawdwriaeth a dynion hel rhacs.
Yr 1880au hwyr
Gwastraff tai yn cael ei gasglu’n ddyddiol mewn biniau lludw symudol. Mae’r gwastraff yn cael ei ddosbarthu â llaw, fel arfer gan wragedd neu ferched, ac mae’r pethau sy’n addas i’w ailgylchu yn cael ei dynnu allan. Mae llawer ohono’n cael ei ailddefnyddio, mae’r gwydr, y papur, hyd yn oed darnau o raean a phethau tebyg yn cael ei roi mewn defnyddiau adeiladu.
Ychwanegwch eich sylw
Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru sy’n cael rhoi sylwadau ar y wefan hon. Logiwch i mewn neu cofrestrwch. Logiwch i mewn Neu Cofrestrwch
