Cynnyrch Terfynol
Plastigau diraddiadwy
Yn ddiweddar mae nifer o adwerthwyr wedi cyflwyno bagiau diraddiadwy yn eu siopau. Mae’r bagiau hyn wedi eu gwneud o blastig sy’n diraddio o dan amodau arbennig. Mae yna ddau fath o blastig diraddiadwy: plastigau bioddiraddadwy, sy’n cynnwys canran fechan o ddefnyddiau sydd ddim wedi eu seilio ar olew, megis startsh corn; a phlastigau ffotoddiraddiadwy, a fydd yn chwalu pan gân nhw’u rhoi yn y golau.
Er eu bod yn swnio’n dda mewn egwyddor, mae yna nifer o bryderon ynglŷn â’r defnydd o blastigau diraddadwy: Yn gyntaf, fydd y plastigau hyn ddim ond yn diraddio os y byddan nhw’n cael eu gwaredu mewn amgylchiadau addas e.e. fydd cynnyrch plastig ffotoddiraddiadwy ddim yn diraddio os caiff ei gladdu mewn safle llenwi tir lle nad oes yna olau. Yn ail, mae methan yn cael ei ollwng pan fydd defnyddiau’n diraddio’n anerobig, mae’n debygol pan fyddan nhw’n diraddio y byddan nhw’n gollwng methan, sy’n nwy tŷ gwydr sydd wedi ei gysylltu â chynhesu byd eang! Yn drydydd, mae’r cymysgedd o blastigau sy’n diraddio a’ch potel blastig arferol yn debygol o gymhlethu systemau didoli plastigau. Ac yn olaf ond nid y lleiaf, gall defnyddio’r defnyddiau hyn arwain at gynnydd mewn gwastraff a sbwriel plastig gan fod pobl yn debygol o gredu bod plastig sydd wedi ei daflu yn syml yn diflannu.
Felly dyna, yn fras, yw’r broses gyfan o gynnyrch i gynnyrch, trwy ailgylchu. Gan eich bod nawr yn gwybod yn union beth mae’ch deunydd rydych yn ei ailgylchu yn cael ei ddefnyddio i’w greu, y cam nesaf yw mynd allan a phrynu nwyddau wedi eu hailgylchu.
Ydych chi’n dal yma? Allan â chi!
Ychwanegwch eich sylw
Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru sy’n cael rhoi sylwadau ar y wefan hon. Logiwch i mewn neu cofrestrwch. Logiwch i mewn Neu Cofrestrwch
