Cynnyrch Terfynol
Gwydr
Wedi cyrraedd y ffatri ailgylchu, mae’r gwydr yn cael ei ollwng i mewn i beiriant sy’n ei chwalu a’i falu’n ddarnau mân a elwir yn ysgyrion gwydr. Mae’r ysgyrion wedyn yn cael ei anfon i’r lle caiff ei droi’n beth bynnag y bwriedir ei greu. Mae hyn yn cynnwys:
- teils addurniadol
- byrddau syrffio
- tywod i sgwrio rhywbeth â thywod
- gwydr ffibr
- defnyddiau adeiladu
- poteli
- jariau
- llestri coginio
- ac yn y blaen...
Mewn rhai ardaloedd, mae poteli a jariau gwydr yn cael eu gwahanu yn ôl eu lliw. Mae hyn oherwydd bod cynnwys haearn a chyfrwng lliwio mewn gwydr gwyrdd, glas a brown yn rhwystro gwydr rhag cael ei wneud ohono. Mae hyn yn golygu bod cwmnïau sy’n cynhyrchu nwyddau gwydr ddim ond yn gallu defnyddio ysgyrion gwydr clir o wneud gwydr clir, ac er bod gwydr clir yn gallu cael ei ddefnyddio i gynhyrchu gwydr o unrhyw liw arall, dim ond i gynhyrchu mwy o wydr gwyrdd neu wydr o liw arall y gellir defnyddio gwydr gwyrdd, gan ei fod eisoes wedi ei staenio.
Ffaith Ddiddorol: Pan mae gwydr newydd yn cael ei gynhyrchu, mae cymaint o wydr wedi ei ailgylchu â phosibl yn cael ei ddefnyddio gan bod hyn yn galluogi’r defnyddiau eraill i doddi ar dymheredd is. Mae hyd at 90% o wydr wedi ei ailgylchu yn cael ei gymysgu â defnyddiau crai a’i fwydo i mewn i ffwrnais lle mae’r gwydr wedi ei ailgylchu yn ail-doddi ac yn troi’n bur ac fel newydd unwaith eto.
Ychwanegwch eich sylw
Dim ond defnyddwyr sydd wedi cofrestru sy’n cael rhoi sylwadau ar y wefan hon. Logiwch i mewn neu cofrestrwch. Logiwch i mewn Neu Cofrestrwch
